
Madarch newydd i fi, yn tyfu ar fôn coeden wrth ochr y ffordd rhwng Pentregât a Phontgarreg. Roedd yr ap Seek yn awgrymu Cyfrwy cennog (Polyporus squamosus), sy’n amlwg yn anghywir, ac wedyn Amanita’r gwybed (A. muscaria), sy’n bosibl, er bod y lliw yn anarferol.
Wedi eu gadael i dyfu mwy, gobeithio caf i gyfle i fynd yn ôl i edrych eto.
Unrhyw syniadau?

