Madarch newydd i fi, yn tyfu ar fôn coeden wrth ochr y ffordd rhwng Pentregât a Phontgarreg. Roedd yr ap Seek yn awgrymu Cyfrwy cennog (Polyporus squamosus), sy’n amlwg yn anghywir, ac wedyn Amanita’r gwybed (A. muscaria), sy’n bosibl, er bod y lliw yn anarferol.
Wedi eu gadael i dyfu mwy, gobeithio caf i gyfle i fynd yn ôl i edrych eto.
Unrhyw syniadau?

Yr un grŵp o fadarch, edrych o danddyn nhw. Mae’r coeaen yn olau, bron yn wyn, gyda pheth cen brown golau. Tagellau lliw hufen neu felyn, sy ddim yn cysylltu â’r goesen. Methu gweld folfa arnynt.

Grŵp bach o fadarch gyda chapiau euraidd â smotiau tywyllach. Mae’r cap mwya tua 12cm ar draws.