Ffaith diddorol ar raglen Ar y Marc y bore 'ma: diolch i fuddugoliaethau Met Caerdydd a Llandudno neithiwr yng Nghwpan Cymru, rownd derfynol 2026 fydd y cyntaf ers 2013 heb naill ai YSN neu Nomadiaid Cei Connah ynddi. #pêl-droed #CwpanCymruJD #JDWelshCup #MastodonFC #BBCradioCymru

Sut na wyddwn i bod (neu roedd) eitem Tafarn y Mis ar raglen Heno? Mae Welsh Whisperer yn galw heibio, mwydro efo locals, cyflwyno cwpan fechan, ac yn canu iddyn nhw. Falle wna i adolygiad o bob fideo, yn nodi sawl yfwr mewn siaced hi-viz, oes mobility scooter wrth y drws, ac a welais bwmp cwrw go iawn. https://youtube.com/playlist?list=PLHVfV5IccIkwu4adb6S3auwpv5ra9nFia&si=6GdVgZNkmCxXwNA1#Tafarndai#Pubs#S4C#Cymraeg
Sôn an Welsh Whisperer, roedd Andrew Walton (ei enw go iawn) ar Beti a'i Phobl yn ddiweddar. Prin hanner y sioe glywes i, ond roedd reit difyr a doniol clywed sut cafodd ei enw llwyfan, beth yw ei ysbrydoliaeth creadigol a sut roedd yn cael ei ystyried yn 'ddysgwr' er iddo gaffael y Gymraeg yn fuan iawn fel plentyn wedi symud i'r ardal. https://www.bbc.co.uk/programmes/m002bzxx #BBCRadioCymru