Pwy sy’n cofio'r “Hipser PDA”?
Roedd un o'r rhain gyda fi yn y 2000au cynnar, pan o'n i'n dilyn cyfundrefn David Allen #GetThingsDone. Cyn dyfodiad y ffôn clyfar, dyma oedd fy ffordd i o gadw trefn ar bethau, mewn adeg pan o'n i'n rhedeg sawl gwefan.
Mae peth o’i sustem wedi aros gyda fi (“dim ond un mewnflwch”, er enghraifft), ond darganfyddais i mai'r ffordd orau i reolu fy stress am gael gormod i'w wneud yw i wneud llai o bethau!